A dad holding hands with his three children as they walk to school

Rhieni a Cofalwyr

Stroliwch a Roliwch yw’r her gerdded, olwyno, sgwtera a beicio fwyaf rhwng ysgolion y Deyrnas Unedig! Mae angen eich cefnogaeth arnom i helpu i wneud Stroliwch a Roliwch eleni’r her fwyaf eto!

Two children cycling along a path with their grandparents walking alongside

Pam mae eich Cefnogaeth chi’n Bwysig

Drwy annog ysgol eich plentyn i gofrestru, rydych chi'n helpu i greu amgylchedd hwyliog a gweithgar sy'n fuddiol i'ch plant, staff a'r gymuned ehangach.

Cofiwch, dim ond ysgolion all gofrestru ar gyfer Stroliwch a Roliwch. Ni all rhieni a gofalwyr gofrestru'n uniongyrchol.

Sut allwch chi helpu

  • Lawrlwythwch y Llythyr Rhiant/Gofalwr

    a'i rannu gyda'ch ysgol i roi gwybod iddyn nhw am yr her a sut i gymryd rhan.

  • Rhannu’r Neges

    Siaradwch â rhieni eraill, gofalwyr, athrawon neu Gymdeithas Rhieni ac Athrawon eich ysgol.

  • Anogwch eich plant i gymryd rhan

    trwy gerdded, olwyno, sgwtera neu feicio i'r ysgol yn ystod yr her a helpu eu hysgol i ddringo i fyny’r bwrdd arweinwyr! Does dim angen cofnodi siwrneiau eich hun, bydd yr ysgol yn gofalu am hynny.

  • Rydyn ni yma i helpu

    Mae ein canllaw Tips Gwych a'n hadnoddau yn ei gwneud hi'n hawdd cychwyn arni a chadw'r momentwm i fynd.

  • Gwnewch y daith i'r ysgol yn hwyl

    Rhowch gynnig ar ein hadnodd Bingo Taith Ysgol am ddim.

  • Rhannwch eich stori

    Byddem wrth ein bodd yn clywed gan rieni a gofalwyr sy'n cefnogi Stroliwch a Roliwch. Gallech hefyd bostio ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #StroliwchARoliwch #BigWalkandWheel

A big group of children with bikes and helmets cheering in the school playground

Diddordeb mewn dechrau Bws Beiciau FRideDays?

Mae Bws Beiciau yn ffordd hwyliog i deuluoedd feicio i'r ysgol gyda'i gilydd, gan fagu hyder ar y ffyrdd a llawer mwy. Mae gan ein pecyn cymorth am ddim bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.